Gan Anwen Francis

TREULIODD sawl teulu o Lydaw gyfnod yng Nghastellnewydd Emlyn yn ddiweddar, a hynny gydag amryw o deuluoedd lleol fel rhan o gynllun trefeillio’r trefi.

Eleni, roedd Castellnewydd Emlyn yn dathlu 25 mlynedd o drefeillio gyda Phlonevez Porzay wedi iddynt benderfynu ar y trefeillio yn Ionawr 1990, ac un o’r teuluoedd hynny i gynnig llety i’r Llydäwyr eleni am y tro cyntaf oedd teulu ap Tegwyn o bentre’ Llandyfrïog.

"Buom ni fel teulu yn ddigon ffodus i fod yn rhan o efeillio’r dref drwy groesawu teulu hyfryd o Lydaw atom," meddai'r teulu.

"Mae diddordeb wedi bod gyda ni ers sbel i ddod yng nghlwm â’r cynllun a’r dathliadau ond oherwydd bod teuluoedd o Lydaw yn aros gyda’r un efaill deulu o Gastellnewydd Emlyn blwyddyn ar ôl blwyddyn, nid yw’r cyfle’n codi’n aml.

"Oherwydd bod teuluoedd Llydaweg newydd wedi ymuno eleni, cawsom y cyfle,’ esboniodd Nia ap Tegwyn, a oedd ynghyd â ’i g?r Rh?s a’r plant - Teleri a Mared, wedi mwynhau’r profiad euraidd."

Mae’r trefi yn debyg iawn i’w gilydd o ran math a maint, a thros y bum mlynedd ar hugain ddiwethaf, mae llawer o ymweliadau wedi bod yn digwydd rhwng y trefi gyda Chlwb Pêl Droed Castellnewydd Emlyn yn ymweld â Phlonevez Porzay ac aeth criw hefyd i gymryd rhan yn yr Wyl Gorawl Geltaidd yno.

Ddydd Sadwrn, Awst 22, eleni, gwelwyd criw o Gastellnewydd Emlyn a Phlonevez yn gorymdeithio drwy’r dref o Erddi Plonevez yn Heol Newydd i Neuadd Cawdor lle cawsant y cyfle i weld hen luniau trefeillio’r dref. Cafwyd adloniant cerddorol hefyd gan y delynores adnabyddus Marion O Toole.

Nid hawdd yw cynnal perthynas gyda thref dros y môr, ond gyda chysylltiad parhaus a threfnwyr brwd, mae’r berthynas rhwng y trefi bychain yma yn parhau’n gryf a phositif.

Meddai Nia, sydd yn gweithio i Fenter Gorllewin Sir Gâr: "Dw i’n credu mai un o’r rhesymau am lwyddiant y gefeillio yw dawn y prif drefnwyr i ddod o hyd i deuluoedd o’r ddwy wlad sy’n cydweddu â’i gilydd ac yn dod yn ffrindiau oes.

"Roedd eu diolchgarwch a’u gwerthfawrogiad o’m cyfeillgarwch a chroeso yn twymo’r galon a wir yn esiampl wych o garu’n cyd-ddyn. Roedd yn fraint i fod yn rhan o ddathlu pen-blwydd y gefeillio yn 25 mlwydd oed eleni ac mae’r criw yn edrych ymlaen at y 25 mlynedd nesaf o gyfeillgarwch."

Ychwanegodd Owen Hesford, sydd yn rhan o bwyllgor trefeillio gweithgar y dref:

"Gobeithio bydd y berthynas yn parhau rhyngddym. Mae pawb o'r ddwy dref wedi mwynhau ac maent yn gyfeillgar ofnadwy."

Os oes diddordeb gyda chi i wybod mwy, croeso i chi gysylltu ag Owen Hesford neu John Crossley.