Gan Anwen Francis

NOS Iau yng Ngwesty’r Porth, Llandysul, cyhoeddwyd cyfrol weledol drawiadol, sydd yn rhoi gwedd a golwg newydd ar hen sir Ceredigion.

Mae Hadau Ceredigion yn dilyn Owain Llyr ar grwydr yn dod i nabod y sir a’i chreiriau hynotaf gan lunio portread difyr mewn llun, gair a ffeithiau ffraeth o rai o drigolion, lleoliadau, traddodiadau a chreaduriaid y sir ddoe a heddiw.

Efallai y bydd Owain eisoes yn adnabyddus i rai fel awdur y gyfrol bortreadau a lluniau boblogaidd Bois y Loris a gyhoeddwyd gan y Lolfa yn ystod haf 2011, ac a gyflwynwyd ar ffurf rhaglen ddogfen ar S4C a’i gyfarwyddo gan Owain ei hun.

Bu hefyd yn cyfarwyddo’r ffilm ddogfen La Casa di Dio, sy’n olrhain hanes creu Eglwys y Galon Sanctaidd yn Henllan yn ystod yr Ail Ryfel Byd, stori ddifyr sy’n cael sylw yn y llyfr hwn.

Bu Ceredigion yn ysbrydoliaeth i Owain trwy gydol ei yrfa fel awdur a chyfarwyddwr ffilm ac aeth ati yn 2010 i ddechrau creu’r portread trawiadol hwn, gan gyfuno lluniau a thestun i lunio dogfen o ddiwylliant gwledig sy’n wynebu heriau lu yn y Gymru gyfoes. Darllenodd Owain yn eang am hanes Cymru a hanes y sir a chafodd siom i weld nad oedd yna lyfrau Cymraeg am hanes Ceredigion.

Mae’r gyfrol yn eich arwain ar daith weledol drwy dudalennau’r gyfrol sgleiniog hon ar hyd sir hudolus Ceredigion gan ddarganfod pob math o drysorau: ceirw coch Capel Dewi y dywedir eu bod yn hanu o’r anifeiliaid a fagwyd ar hen ystad Castell Hywel ger Pontsiân; llun godidog o Ynys Lochtyn o Hirallt sef y man uchaf ar hyd arfordir Ceredigion a lle arbennig i weld y machlud ar ddiwrnod clir; Sadwrn Barlys yn Aberteifi, sef rhan bwysig o’r flwyddyn amaethyddol ers canol y 19eg ganrif, a dathliad o’r ‘eisteddfod gyntaf’ a gynhaliwyd gan yr Arglwydd Rhys yn 1176, ynghyd â phortreadau o gymeriadau mwyaf amrywiol y sir megis Bryan ‘Yr Organ’ Jones ac Elin Jones AC.

Cyfrol hyfryd o sir liwgar yw hon, fydd yn siwr o apelio at nifer eang o bobl – o’r rheiny sydd yn drigolion yn y sir, rhai sydd â ddiddordeb yn hanes Ceredigion a’i phobl, at y sawl sydd yn ymddiddori mewn newyddiaduraeth ffotograffeg.