PLANT Ysgol Gynradd Trewen ger Castellnewydd Emlyn oedd y cyntaf yng Nghymru i anfon negeseuon trydar ar gyfrif newydd Cyngor Llyfrau Cymru a lansiwyd yn eu hysgol ddydd Iau.

Bu’r disgyblion, dan ofal eu hathrawon, yn trydar negeseuon a fideos am lyfrau T Llew Jones gan y byddwn yn dathlu canmlwyddiant geni’r awdur ar yr 11eg o’r mis yma.

Bwriad y cyfrif trydar, ar gyfer ysgolion a phlant, yw creu trafodaeth ar y we am eu hoff lyfrau a’u hoff gymeriadau. Mae croeso i unrhyw ysgol anfon neges drydar i gyfrif dwyieithog y Cyngor Llyfrau sydd yn arbennig ar gyfer ysgolion.

Meddai Elwyn Jones, prif weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: "Mae gweld y plant yn trydar a darllen negeseuon ei gilydd yn gyfle arbennig iddynt leisio eu barn drwy gyfrwng y rhyngrwyd ac yn ysgogi cyfathrebu ymysg plant ac athrawon Cymru a thu hwnt."

Ychwanegodd Anwen Francis, swyddog llyfrau plant a hyrwyddo darllen y Cyngor Llyfrau, fod y plant wedi elwa’n fawr o’r profiad:

"Roedd y plant yn llawn cynnwrf am y lansiad ac yn ysu i gael mynegi eu barn am lyfrau T Llew, megis pa nofel oedd y fwyaf cofiadwy, pa gymeriad oedd yn aros yn y cof ac mewn ambell achos, pa lyfrau oedd yn gas ganddynt. Roedd y cyfle i wneud fideo ar gyfer ei drydar hefyd yn apelio atynt, gyda’r mwyafrif yn mwynhau'r broses o ysgrifennu negeseuon trydar, golygu a chymryd rhan."

Cytuno hefyd wnaeth prifathrawes yr ysgol, Rhianydd James.

Meddai: "Mae hwn yn gyfle gwych i ni gael bod y cyntaf o ysgolion Cymru i gyfrannu at y cyfrif trydar newydd yma gan Gyngor Llyfrau Cymru. Mae T Llew yn awdur lleol i ni ac mae’n braf bod y plant yn cael dysgu am ei waith a'u bod yn dal i fwynhau'r straeon. Mae trydar hefyd yn gwella eu sgiliau TGCh ac rydym yn falch iawn o gael trydar."

Mae croeso cynnes i chi drydar eich negeseuon at y Cyngor Llyfrau.

"Edrychwn ymlaen at glywed eich straeon yn ogystal â gweld eich fideos yn trin a thrafod eich hoff awduron," meddai Anwen.