DDYDD Sul, fe wnaeth nifer o'r ardal gymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd, ac ymhlith y rhedwyr brwd oedd Caryl Griffiths o bentre' Eglwyswrw.

Roedd Caryl yn rhedeg er mwyn codi arian tuag at Ganolfan Therapi Ocsigen yn Aberteifi sydd yn helpu pobl gydag afiechydon amrywiol. Cwblhaodd yr her mewn 1 awr a 57 munud – a dyma oedd y tro cyntaf iddi gymryd rhan!

Mae modryb Caryl, Dailwen Vaughan o Flaenffos, yn dioddef o Multiple Sclerosis (MS) ac yn defnyddio'r Ganolfan yn Aberteifi yn wythnosol. Cyn i'r ganolfan agor, rhaid oedd i Dailwen deithio i Abertawe, ac mae cael canolfan ar garreg y drws yn adnodd arbennig.

Meddai Caryl sydd yn gweithio yn Ysgol Gynradd Cilgerran: "Aeth fy hanner marathon gynta’ i yn dda iawn. Wedd y profiad yn gret. Roedd yr awyrgylch yn dda yng Nghaerdydd a hyn o help i mi rhedeg."

Dymuna Caryl ddiolch i bawb sydd wedi ei noddi.