Yn dilyn 'Taith Tractorau Dyffryn Aeron' lwyddiannus eleni eto, cyflwynodd y pwyllgor y swm o £7,700 yn gyfartal rhwng dwy elusen, Cangen Clefyd y Siwgwr ac Ambiwlans Awyr Cymru, Hoffai'r pwyllgor ddiolch i'r noddwyr a'r cefnogwyr am eu haelioni ym mhob ryw ffordd. Yn ystod y pedair blynedd ddwethaf rhannodd y pwyllgor dros £25,000 i wahanol elusennau.

Yn y llun o'r chwith mae Anwen James, Nyrs Arbennigol Clefyd y Siwgwr; Eilir Jones; Edna Williams, HSBC Cangen Llambed a gyfrannodd £500 o dan ei cynllun £ am £ ; Wyn Thomas, Prif Noddwr; Aled Williams; John Jones; Elgan Evans a Ros Jones, Ambiwlans Awyr Cymru.

LLUN: Tim Jones