MAE gwaith un o gyn-ddisgyblion Ysgol Uwchradd Aberteifi a oedd yn brifardd enwog, yn cael ei ddathlu gan staff a disgyblion yr ysgol ar hyn o bryd.

Mae gwaith y diweddar Dic Jones yn hawlio sylw mewn murlun yn yr ysgol i atgoffa disgyblion am werth a phwysigrwydd yr iaith Gymraeg.

Hefyd mae Mr Emyr James, un o athrawon yr ysgol, wedi cael ei ddewis i wneud Cadair Eisteddfod Genedlaethol a fydd yn cael ei chyflwyno i Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mawrth, Mehefin 14.

Dywedodd Emyr: “Mae wedi bod yn fraint eithriadol i fi a’r ysgol i gael y cyfle i weithio’r gadair hon. Mae’r dyluniad wedi cael ei ysbrydoli gan y gadair enillodd Dic yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberafan 50 mlynedd yn ôl yn 1966, am ei awdl fawr 'Y Cynhaeaf'.”

Mae disgyblion wedi bod yn dysgu llawer am fywyd a gwaith Dic Jones yn ddiweddar a’i bwysigrwydd fel bardd gwlad o fewn y gymuned leol, ei etifeddiaeth farddonol a’i waith dros yr iaith Gymraeg. Mae’r ysgol wedi cynnal gwasanaethau ysgol gyfan i ddathlu’r Eisteddfod a’r gadair sydd nawr wedi cael ei chreu ar dir yr Ysgol Uwchradd i gofio am waith y bardd.

Cafodd y murlun ei weithio gan athro ac arlunydd o Borthmadog, Dafydd Roberts ac mae’n darlunio elfennau o awdl bwysig 'Y Cynhaeaf', amaethu, Cymru, y Gymraeg a’r gadair newydd.

Esboniodd y pennaeth, Nicola James: “Mae’r disgyblion wedi cael eu swyno gan hanes Dic Jones a’i gysylltiad â’r ysgol. Dic yw un o’n cyn-ddisgyblion enwocaf a lliwgar a gobeithio y bydd y murlun yn ysbrydoliaeth i ddisgyblion y presennol, a’u hatgoffa am eu diwylliant a’u traddodiad, ac ymfalchïo yn hynny, a deall fod hanes pobl fel Dic Jones yn rhan o’r hyn ydyn nhw heddiw. Mae steil graffiti y murlun yn goleuo’r ardal chwarae ac mae’r dyluniad yn modern iawn, fel gall disgyblion uniaethu ag ef.”

Mae teulu Dic Jones wedi cadw cysylltiad cryf gydag Ysgol Uwchradd Aberteifi ar hyd y blynyddoedd.

Maen nhw’n noddi tlws blynyddol yr ysgol 'Tlws Tro Dy Law' sydd yn cael ei gyflwyno’n flynyddol i ddisgybl sydd yn arbennig o greadigol neu ddawnus. Mae’r ysgol yn gwerthfawrogi cefnogaeth y teulu ac yn ymfalchïo yn y cysylltiad parhaol.