Gan Anwen Francis

DAETH torfeydd in Gastell Newydd Emlyn i fwynhau'r ras boblogaidd Ras Bryndioddef. Mae’r ras, sy’n cael ei threfnu gan Adran Emlyn yr Urdd yn flynyddol, yn gweld pobl o’r dref a thu hwnt yn cystadlu.

Eleni, roedd 35 oedolyn yn cymryd rhan gan ddechrau’r ras o faes parcio’r dref, drwy’r dref, dros y bont, fyny rhiw Bryndioddef a nôl i’r llinell derfyn yn y cae pêl droed.

Yn gyntaf yn ras y dynion oedd John Collier wnaeth orffen yr her mewn 9 munud a 48 eiliad a Jane Wilkins oedd yn gyntaf ar ran y menywod gan gwblhau’r ras mewn 13 munud 39 eiliad.

Roedd 127 o blant wedi rhedeg a gwelwyd Steffan Davies yn ennill ras y Bechgyn Blwyddyn 10-11 mewn 11 munud a 53 eiliad.

Dion Jones oedd yn ail i Fechgyn Blwyddyn 7- 9 ac yntau wedi gorffen y ras mewn 12 munud 57 eiliad.

I ferched Blwyddyn 7-9, Ellie Tromans orffennodd gyntaf mewn 12 munud a 52 eiliad gyda Sean Hesmondhalgh yn gorffen y ras mewn 12 munud a 23 eiliad i Fechgyn Blwyddyn 5-6.

Gwelwyd Leia Vobe yn ennill yn y gystadleuaeth i Ferched Blynyddoedd 5 a 6 mewn amser o 14 munud a 55 eiliad. Cynyr Macrae ddaeth yn gyntaf yn y ras i Fechgyn Blynyddoedd 3-4 gydag 13 munud a 27 eiliad ar y cloc.

Ym mlwyddyn 3-4 i Ferched, gorffennodd Bessy Hill y ras mewn 13 munud a 45 eiliad a Seth James yn cwblhau’r ras mewn 16 munud a 42 eiliad i Fechgyn Blynyddoedd 1-2.

Manon Davies oedd y cyntaf dros y llinell derfyn i Ferched Blynyddoedd 1-2 a hynny mewn amser o 18 munud a 49 eiliad.

I Fechgyn Meithrin/Derbyn, Twm Jones oedd yn fuddugol mewn amser o 19 munud a 18 eiliad a Beca Evans oedd yn fuddugol yn adran y Merched mewn amser o 24 munud a 25 eiliad.

Roedd tarian newydd eleni er cof am Ceinwen Davies wedi ei rhoi gan y teulu i gofio am yr holl waith yr oedd Ceinwen wedi ei wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf gydag Adran Emlyn.

Enillydd y darian yma oedd Steffan Davies. Cyflwynwyd y darian iddo am fod y cyflymaf ar y noson. Arferai Steffan fod yn aelod o Adran Emlyn.