YR ERYR, y Llew Du, y Lamb a’r Castle yn Aberteifi yw ond rhai o’r tafarnau a enwyd yn llyfr newydd gan Myrddin ap Dafydd a elwir yn ‘Enwau Tafarnau Cymru (Gwasg Carreg Gwalch).’

O Aberteifi ewn ymlaen ar hyd yr arfordir i Gogerddan, y Llwyn Dafydd, Pentre Arms yn Llangrannog, Tafarn Bach, Pontsian, Synod Inn, y Ship Tresaith a’r Daffodil ym Mhenrhiwllan, heb anghofio Tafarn y Fferi yn Llandudoch.

Mewn llawer o drefi a phentrefi, yr hen dafarnau yw’r rhai o’r adeiladau mwyaf diddorol o safbwynt pensaernïaeth a hanes. Mae’u henwau hefyd yn costrelu llawer o dreftadaeth leol ac yn ddifyr o safbwynt cymdeithas ac arferion ddoe a heddiw.

Chwarter canrif a mwy ers cyhoeddi’i gasgliad cyntaf yn y maes hwn, yr hyn sydd wedi bod yn drawiadol i’r awdur wrth deithio Cymru i gofnodi’r detholiad cynhwysfawr hwn yw cymaint mwy o enwau Cymraeg sydd ar dafarnau Cymru bellach.

Er bod llawer o dafarnau wedi gorfod cau’u drysau dros y blynyddoedd diwethaf, mae mwy o hanes lleol a diwylliant cynhenid i’w gasglu wrth sylwi ar enwau’r tafarnau sydd ar ôl.

Mae mwy a mwy o dafarnau yng Nghymru yn arddangos arwyddion Cymraeg ac yn cael eu henwi ar ôl digwyddiadau ac enwogion o hanes Cymru. Mae’r tafarnau yn aml ymysg adeiladau mwyaf hynafol ein trefi a’n pentrefi, ac maent yn rhan werthfawr o’n treftadaeth. Ond beth yw’r straeon a’r esboniadau sydd y tu ôl i’r enwau hyn?

Mae’r casgliad hwn yn llawn o bytiau difyr a dyma’r casgliad gorau eto o luniau o enwau tafarnau o bob cwr o’r wlad.