DDYDD Sadwrn yma, cynhelir sioe'r Teifiseid ger Castellnewydd Emlyn. Mae disgwyl mawr amdani a’r pwyllgor gweithgar yn edrych ymlaen at ddiwrnod bendigedig.

Er gwaethaf achosion o strangles mewn nifer o geffylau yn yr ardal, mae’r pwyllgor yn ffyddiog y bydd cystadleuwyr yn dod yno i gystadlu.

Llywydd y sioe eleni yw Mair Jones, Fferm Morlogws, Tanglwst. Mae’r sioe hon yn hynod bwysig ym mywyd Mair a’i theulu. Roedd ei thad-cu, y diweddar R L Jones, Fferm Penwenallt yn berson allweddol i lwyddiant y sioe ac efe wnaeth ddylanwadu fwyaf ar Mair cyn iddi symud i Fferm Troedyraur pan yr oedd yn ddeng mlwydd oed.

Y diweddar Tom Evans oedd ei thad, ac ef oedd berchen y tir lle cynhelir y sioe erbyn hyn, ac wrth gwrs Robert Evans, tad Llyr Evans, Cadeirydd y sioe eleni sydd berchen ar gae’r sioe heddiw. Mae’r sioe felly yn un deuluol, ac roedd gwr Mair, y diweddar Gynghorydd Sir Haydn Jones yn gefnogol iawn o’r sioe ac yn aelod o Bwyllgor y Sioe am flynyddoedd lawer.

"Dw i ddim yn credu i mi golli'r un sioe erioed," dywedodd Mair. "Mae cymaint o bobl ifanc wedi ymuno â’r pwyllgor erbyn hyn ac maent mor frwd, mae’n hyfryd gweld hyn, ac mae ganddynt gymaint o ddiddordeb a chysylltiad gyda hi."

Ychwanegodd: "Rwy’n edrych ymlaen at y sioe gyfan, ond gweld y grwp o bump gwartheg bydd yn dod â’r pleser mwyaf i mi. Mae’r gystadleuaeth yn gyfle arbennig i gystadleuwyr sydd am ddangos a chystadlu eu stoc yn y Sioe Frenhinol yr wythnos ganlynol, ac yn gyfle gwych iddynt ymarfer. Dw i wir ddim yn meddwl bod sioe arall yn yr ardal yn cynnig cystadleuaeth debyg."

Mae Mair yn gobeithio bydd y tywydd yn sych, does dim yn rhaid iddi fod yn heulog, ond bod y glaw yn cadw draw.

"Dw i’n cofio fy nhad yn dweud ar y nos Wener cyn y sioe, i ni symud y sioe i gaeau Glan Llyn gan fod yr afon yn codi yng nghaeau’r Clwb Rygbi. Ac mae’r sioe fach wedi parhau ar y caeau yna ers hynny. Tywydd sych sydd eisiau arnom ni a gobeithio bydd pawb yn dod i gefnogi."