DERBYNIWYD y newyddion calonogol o Batagonia yn ddiweddar bod yr ysgol gynradd ddwyieithog newydd yno wedi’i hagor yn swyddogol. Dyma un o ddigwyddiadau pwysicaf y flwyddyn i gymunedau Cymraeg Y Wladfa.

Cyhoeddodd pennawd stori flaen y papur Llais yr Andes bod "Ysgol y Cwm wedi agor ei drysau". Meddai’r adroddiad: "Wedi blynyddoedd o gynllunio a threfnu, gwireddwyd breuddwyd cymuned Gymraeg Trevelin."

Pentref bychan wrth droed mynyddoedd Yr Andes yw Trevelin, gyda phoblogaeth o tua 8,000 yn cynyddu’n gyson. Sefydlwyd ef yn 1885 pan gyrhaeddodd hanner cant o ffermwyr Cymreig yno i amaethu un o gymoedd mwyaf ffrwythlon Patagonia.

Deng mlynedd yn ôl gefeilliwyd Trevelin ac Aberteifi, ac yn dilyn sefydlu Pwyllgor Gefeillio, bu cryn weithgarwch yn ne Ceredigion i godi arian i hyrwyddo’r gwaith o gynnal yr ysgol newydd.

Y bwriad y tu ôl i’r fenter oedd ceisio trosglwyddo’r iaith Gymraeg i’r genhedlaeth nesaf yn Yr Andes, ar unig ffordd o wneud hynny oedd agor ysgol ddwyieithog – Cymraeg a Sbaeneg – i’r gymuned gyfan.

Er mwyn gallu dechrau ar y gwaith adeiladu bu’n rhaid gwerthu rhan o waddol y sefydlwyr cyntaf, sef plotiau o dir o gwmpas ardal Capel Bethel, yn Nhrevelin.

"Er yr holl ymroddiad gan gefnogwyr yr ysgol," medd Llais yr Andes, "bu’n rhaid goresgyn sawl her. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae chwyddiant wedi gostwng gwerth y peso yn sylweddol gan olygu nad oedd digon o arian i gwblhau’r adeilad. Bu’n rhaid agor yr ysgol gyda dwy yn unig o’r ystafelloedd dosbarth wedi’u cwblhau – dwy ystafell fawr – gan ganiatáu i’r ysgol feithrin agor yn ôl yr addewid.

"Tra bod 30 o blant yn mwynhau eu gwersi mewn un rhan o’r adeilad," medd yr adroddiad ymhellach, "tu ôl i wal dros-dro mae’r adeiladwyr wrthi’n paratoi y rhan nesaf, sef dwy ystafell ddosbarth arall, rhagor o dai bach, a chegin. Mae’r diffyg cyllid yn parhau i fod yn rhwystr, a rhaid gwerthu rhagor o blotiau o dir er mwyn ariannu’r gwaith."

Daeth plant, athrawon, rhieni a chefnogwyr at ei gilydd i ddydd agored cyffrous Ysgol y Cwm pryd croesawyd criw ffilmio o’r orsaf leol, ynghyd â gohebwyr o orsafoedd radio a phapurau newydd yr ardaloedd cyfagos.

Siaradodd y brifathrawes, Erica Hammond, am fanteision addysg ddwyieithog, gan bwysleisio, felly, bod yr ysgol ar agor i holl blant y gymuned, nid yn unig i’r rhai sydd o dras Gymreig.

Dywedodd ysgrifenyddes yr ysgol, Margarita Green eu bod nhw i gyd yn hynod ddiolchgar i bawb a’u cefnogodd. "Rydym bron iawn a gwireddu’n breuddwyd o sicrhau dyfodol i’r iaith Gymraeg ym Mhatagonia," meddai.

Croesawodd Y Parch Eirian Wyn Lewis, cadeirydd Pwyllgor Gefeillio Aberteifi / Trevelin, y newyddion da o Batagonia.

Mae'r Pwyllgor Gefeillio wedi bod yn codi arian er mwyn hyrwyddo gwaith y fenter.

"Rydyn ni yma yn ne Ceredigion yn ymfalchïo yn llwyddiant y fenter yn Nhrevelin. Bûm yn dyst fy hun o’r brwdfrydedd a’r ymdrech sydd yno er mwyn hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn Y Wladfa. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw!"