MAE Pwyllgor Egin Gwyrdd Cymanfa Penfro’n mawr obeithio y bydd Rali Flynyddol yr Ysgolion Sul, a gynhaliwyd eleni ym Methabara, yn aros yn fyw ar gof plant a ieuenctid a gymerodd ran yn yr arholiad, y cywaith a’r cwis.

Gyda chopïau printiedig o beibl.net wedi cael eu cyhoeddi mis Tachwedd diwethaf a gyda 2016 yn ‘Flwyddyn y Beibl Byw’ penderfynodd y pwyllgor y byddai’n braf cyflwyno pob un o’r ymgeiswyr gyda chopi personol o beibl.net yn lle’r tocynnau anrheg arferol.

Ar ben hynny, estynnwyd gwahoddiad i gyfieithydd y Beibl, Mr Arfon Jones o Gaerdydd, i fod yn wr gwadd yn yr oedfa ac felly derbyniodd y plant a’r bobl ifainc gopi o’r Beibl o law ‘y dyn ei hun’.

Roedd Arfon Jones eisoes wedi dal y gynulleidfa gyfan yn ei law wrth iddo gyflwyno’i neges yn hanner cyntaf yr oedfa. Goleuni a thywyllwch oedd ei thema a throsglwyddwyd ei neges gyda help nifer o blant a oedd yn awyddus iawn i’w helpu.

Llywyddwyd a lliwiwyd yr oedfa mewn modd hyfryd iawn gan y Parch Rhosier Morgan, gweinidog Bethabara ac eglwysi Cylch y Frenni; a Mr Ceirwyn John o Fethabara oedd y cyfeilydd.

Cymerwyd at rannau arweiniol yr oedfa’n raenus dros ben gan Caryl John, o Fethabara a hithau’n darllen allan o’r cyfieithiad newydd beibl.net. Aeth Euros, Gwennan ac Elen o gwmpas gyda’r platiau casglu a’r casgliad eleni’n mynd at yr elusen Gobaith i Gymru.

Yn ystod y misoedd yn arwain i fyny i’r rali bu Mrs Eleanor Thomas, Croesgoch, o gwmpas yr Ysgolion Sul yn arholi’r plant ac yn cael golwg ar y cyweithiau a baratowyd ganddynt ar y thema “Iesu’r Meddyg”. Hithau felly a gafodd y fraint o gyflwyno’r tystysgrifau iddynt.

Cyn eu cyflwyno diolchodd yn ddiffuant iawn i’r rhieni am fynd â’r plant i’r Ysgol Sul neu’r Clwb; i’r athrawon am roi o’u hamser prin; ac yn arbennig iawn i’r plant am eu gwaith graenus.

Ymgeisiodd 83 o blant o saith ysgol Sul - Blaenffos, Cylch Carn Ingli, Clwb Rhwyd y Brenin Croesgoch, Ebeneser Dyfed, Seion Crymych, Mount Pleasant Solfach a Star.

Cyflwynodd y llywydd ddiolchgarwch diffuant i’r arholwraig a Phwyllgor yr Egin Gwyrdd am eu gwaith, i’r gwr gwadd am ei neges, i eglwys Bethabara am y croeso twymgalon ac i bawb a ddangosodd gefnogaeth i’r Ysgolion Sul.