MAE wedi bod yn gyfnod prysur a llwyddianus iawn i Ysgol Gerdd Ceredigion.

Yn ogystal ag ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni ym mis Awst bu’r côr hefyd yn codi arian tuag at elusen Marie Curie dros y flwyddyn gan gynnal cyfres o gyngherddau ar thema Cwpan Rygbi’r Byd.

Codwyd y swm anrhydeddus o £4,400 a chyflwynwyd y siec mewn cyngerdd dros yr haf yng Nghlwb Rygbi Castellnewydd Emlyn. Diolch yn fawr iawn i bawb a gefnogodd y fenter, cafwyd lot o sbort wrth baratoi a mynd ati i godi’r arian.

Mae’r côr yn cwrdd yn wythnosol yng Nghastellnewydd Emlyn o dan arweiniad Islwyn Evans. Ar hyn o bryd maent yn paratoi ar gyfer cyngerdd arbennig iawn i gofio trychineb Aberfan hanner can mlynedd yn ôl.

Mae S4C wedi comisiynu gwaith corawl gan Karl Jenkins a Mererid Hopwood i nodi’r achlysur.

Bydd Ysgol Gerdd Ceredigion a Cywair ynghyd â phedwar côr arall yn perfformio’r gwaith gyda Bryn Terfel, Elin Manahan Thomas a Catrin Finch yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd ar nos Sadwrn, Hydref 8. Bydd hwn yn brofiad bythgofiadwy i’r plant. Cynhelir gwrandawiadau i aelodau newydd yn ystod yr wythnosau nesaf, gellir cysylltu ar 01239 711635.