Undeb Amaethwyr Cymru: Mae dwsinau o blant ysgol ledled Cymru wedi cymryd rhan yn her ddiweddaraf Indeb Amaethwyr Cymru yn ymwneud a’r ymgyrch "Mynnwch Gynnyrch Lleol".

Ar stodin UAC yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yr wythnos hon, bydd rownd derfynol cystadleuthau coginio’r Undeb yn cael ei chynnal gyda phlant yn cystadlu i fod yn bencampwyr cynnyrch lleol.

Mae’r trefnwyr wedi derbyn dros 100 o geisiadu a bydd y cystadlu’n frwd yn y ddwy adran: ysgol gynradd ac ysgol uwchradd.

Her yr adran gynradd oedd cynllinio pizza Cymreig lleol. Gofynnwyd i’r adran uwchradd baratoi pryd dau gwrs i ddathlu Camp Llawn Tim Rygbi Cymru eleni.

Mae disgwyl i’r cystadleuwyr ddefnyddio cynnyrch Gymreig lleol a bydd gofyn iddynt esbonio’u dewis o gynhwysion.

Caiff rownd derfynol yr adran gynradd ei chynnal am 11u.b ddydd Mawrth Awst 5ed, a chaiff rownd derfynol yr adran uwchradd ei gynnal am 10y.b dydd Gwener Awst 8fed.

Dywedodd trefnydd y gystadleuaeth, Sian Davies, swyddog gweithredol sirol UAC Morgannwg: "Dyma gyfle gwych i blant ysgol ddysgu am ddefnyddio bwyd lleol a deall, hyd yn oes os yw pizza’n dod o’r Eidal yn wreiddiol, y gallwn ei wneud yn fwyd Cymreig yn hawdd".

Ar nodyn ysgafnach, mae her wedi gosod i Gareth Vaughan, Llywydd UAC, a Dai Davies, Llywydd NFU Cymru, i fynd o amgylch y maes gyda papur pumpunt, a phrynu pump o gynhwysion mewn awr i wneud y smwddi cyflymaf a blasusaf!

Gallwch eu gweld yn gwneud rhain ar stondin Gwir Flas (sydd rhwng stondinau UAC a NFU Cymru) am 12y.p dydd Iau Awst 7fed.

Am rhagor o wybodaeth, cysylltwch a Sian Davies: 0772541179