Darllen map OS lleol (Landranger 1996) oeddwn i.

A hynny cyn mynd i siarad yng Nghinio Gwyl Ddewi canghennau MYW Beulah a Glynarthen yng Nghaffi Emlyn eleni. Wedi'r cwbwl, mae'n hawdd mynd ar goll rhwng Aberteifi a Than-y-groes!

A bm yn rhyfeddu - fel y gwneuthum ac fel y gwnaethoch chi droeon, rwy'n siwr - ar gyfoeth enwau ffermydd a thyddynnod yr ardal. Ond mae gan enw ffarm - yn enwedig felly ffarm Gymraeg - fwy nag un swyddogaeth. Yn aml fe'i defnyddir i gyfeirio at y sawl sy'n byw ar y ffarm honno. Buodd David Phillips erioed yn 'David Phillips' yn ein dosbarth ni yn yr ysgol slawer dydd. Dai Trebared oedd e. Ac weithiau, dim ond Trebared. A dyna chi'r Hendre ac Oernant a Phenlan a Chilrhue ac yn y blaen, ac yn y blaen.

Mae ymwybyddiaeth ddofn iawn gan y Cymry o'r berthynas glos sydd rhwng y tir a'r bobol sy'n ei drin ac yn ei gyfri'n gartref. Ac wrth syllu ar y map hwnnw, 'roedd dyn yn cael ei atgoffa o'r ymwybyddiaeth honno - ac o bob bygythiad iddi. Dim ond enwau oedd ar y map - rhai (fel eu teuluoedd) yn gyfarwydd i mi; eraill yn ddieithr, na wyddwn mo'u hynt na'u helynt; ac eraill efallai wedi mynd o'r golwg erbyn hyn. (A nifer wedi eu camsillafu, fel y gwelwch yn y gerdd isod!) Mewn gwlad (a byd) sydd (medden' nhw) yn ddilornus o gysyniadau fel 'cynefin' a 'bro' a 'milltir sgwr', mae'n bwysig dal gafael ar yr enwau hyn. Mae'n braf cael clywed eu cerddoriaeth - a chodi ambell gwestiwn yr un pryd.

Milltir Sgwr A s milltir sgwr gan Beulah? Beth yw bro Glynarthen nawr? Beth yw hyd a lled adnabod o Gefnmaes i Drefaesfawr?

O Bantrodyn i Banteirw, Trefaesfach ac Esgair-graig, a s tynnu cs cymdogion a s cario clecs Cymraeg?

A yw'r cloddie wedi'u plethu ym Mhenlan fel dwylo'n dynn? Ac a glywch yng Nglan Medeni swn bugeilio'r gwenith gwyn?

Ym Mryngwrog a Glandulas a s awch ar lafn yr og? A yw'r gwcw'n dal i alw fel erid yn Ffynnon-gog?

A ws croeso yn Meddgeraint ac yn Hendraws i bob un? A ws swper mowr a glased heno ym Mhenalltygwin?

Yn Wern Gadno a Dlgian, Pantybetws a Thyllwyd, Pen y Banc a Phant y Bwla a s olew ar y glwyd?

Ym Mhanteinon a Choedperthi, Deiniol, Gilfach, Troedyraur, Glaspant, Gorwel a Blaensylltyn, a ws grn ar gn a gair?

A phan glywch chi yr holl enwe a'r cwestiyne'n rhestr hir, tra bo'r enwe'n fwy nag enwe a chefn gwlad yn fwy na thir; a thra bo 'na ambell ateb cadarnhaol 'ma a 'co, fe fydd milltir sgwr gan Beulah fe fydd gan Glynarthen fro.