Cyhoeddodd y Sunday Times ei rhestr blynyddol o'r bobol gyfoethocaf yng ngwledydd Prydain.

Yn ystod yr wythnos flaenorol bu'r Western Mail yn ymffrostio yn y nifer o Gymry oedd yn ymddangos ar y rhestr hon.

Ar frig y rhestr o'r Cymry yr oedd Tom Jones, y gwr hwnnw o Bontypridd sydd wedi defnyddio'i ddawn lleisiol i wneud ffortiwn iddo'i hun a byw'r bywyd bras yn yr Unol Daleithiau. Hwn, os cofiwch, oedd yr un a ddewiswyd mewn pleidlais gan y Western Mail fel y Cymro mwyaf!

Yr hyn sy'n rhyfeddol am y rhestri hyn yw'r ffaith fod y papurau a'r unigolion a enwir yn ymffrostio mewn modd agored yn eu cyfoeth mawr. Mewn arolwg barn yn ddiweddar dywedodd mwyafrif yr ieuenctid a holwyd taw un o'u prif uchelgeisiau mewn bywyd yw bod yn gyfoethog', oherwydd bod cyfoeth mawr yn angenrheidiol i berson allu mwynhau bywyd.

Ysfa cwbwl hunanol sydd wrth wraidd yr awydd i fod yn gyfoethog; hunanoldeb rhemp wedi ei barchuso ydyw.

Mae hinsawdd ein hoes yn milwrio o blaid y syniad fod casglu llawer mwy o arian nag sydd angen arnoch i fyw yn beth da. Mae'r sefydliad' o blaid y meddylfryd hwn gyda Tony Blair yn hyrwyddo'r syniadau hyn yn agored; wedi'r cyfan fe wariodd ei wraig fwy o arian ar wneud ei gwallt adeg yr ymgyrch etholiadol ddiwethaf na mae llawer iawn o bobol yn yr ardal hon yn ennill mewn blwyddyn!

Rwy'n ymwybodol iawn o'r ffaith fod nifer o ddarllenwyr y golofn hon yn mynd i ymateb yn unol phropaganda'r sefydliad' drwy ddweud taw cenfigen sy'n gyfrifol am y fath agwedd. Un o lwyddiannau'r cyfoethogion yw defnyddio'r cyhuddiad hwn i gau cegau unrhyw ddarpar wrthwynebwyr.

Mae hunanoldeb ac ariangarwch yn ddrwg! Dyna a ddywed y Testament Newydd. Dywed Iesu ei bod yn haws i gamel fynd drwy grau nodwydd (gweithred amhosibl) nad yw hi i berson cyfoethog i fynd i Deyrnas Nefoedd; a dywed Paul taw cariad at arian yw gwraidd pob drygioni.

Pobol hynod o hunanol yw'r cyfoethogion, ac y nhw sydd yn rheoli ein cymdeithas yn y cyfnod hwn (fel yng nghyfnod Iesu a Paul, a thrwy hanes gwareiddiad). Nhw sydd mewn grym yn wleidyddol ac economaidd, nhw sydd berchen y mwyafrif llethol o'r cyfryngau; a'u ffordd hwy o weld pethau sy'n cael eu cyflwyno'n rheolaidd i ni i'w dilyn.

Trachwant a hunanoldeb sydd wrth wraidd pob gwrthdaro, boed ar lefel unigolion neu wledydd. Ariangarwch sydd wrth wraidd llygru'r blaned hon a'r dinistr ecolegol enbyd sy'n digwydd iddi.

Yn wyneb hyn i gyd ni allaf i uno 'r llawenydd o weld yr holl sylw a chanmoliaeth sy'n cael ei roi i'r bobol hunanol hyn sy'n crisialu'r grym dinistriol sy'n bygwth ein byd.