Dim ond darnau o ddefnydd ydynt. Mae cannoedd ohonynt o wahanol faint i'w gweld yn hongian o ffenestri cartrefi ac ar gerbydau.

Rheini sydd chroes goch ar gefndir gwyn, sef baner Lloegr, yw'r rhai sydd yn achosi'r teimladau cymysglyd. Wrth weld gymaint o faneri i gefnogi tm Lloegr yng nghystadleuaeth cwpan y byd mae hynny wedi gwneud i mi ail feddwl gan edrych ar bethau mewn goleuni gwahanol 'Rwyf yn cydfynd 'r feirniadaeth oherwydd hawdd deall y gwg a'r teimladau negyddol a gwrthwynebus a ddaw o weld y baneri hyn yn enwedig felly pan fydd Cymry yn eu dangos. Wedi'r cyfan mae mor glir 'r grisial nad Lloegr yw ein tm ni, felly mae eu cefnogi yn gyfystyr brad. Cofiwch mae rhai yn dweud nad oes dim o'i le i gefnogi tm gwlad drws nesaf gan hyd yn oed ddadlau bod dyletswydd arnom i wneud hynny. Ond beth os na fyddai Lloegr yn y gystadleuaeth? A fydden nhw wedyn yn barod i gefnogi'r tm drws nesaf boed Cymru, Yr Alban neu hyd yn oed Yr Iseldiroedd, Ffrainc neu'r Almaen? Wedi'r cyfan dyma wledydd sydd y drws nesaf i Loegr!

Ond cofiwn mae'n beth dilys iawn i lawer o'r rhai sydd yn byw yn ein plith i ddangos baner Lloegr hyd yn oed yma ym mherfeddion cefn gwlad Ceredigion a Phenfro, achos wedi'r cyfan Saeson ydynt.

Peth digon naturiol yw iddynt gefnogi eu gwlad tra'n dewis byw yma yn ein plith. Yn y pen draw does dim disgwyl iddynt gefnogi unrhyw wlad arall. Wedi'r cyfan pan gwelir trigolion gwledydd eraill, ar wahan i Loegr, yn cefnogi eu gwledydd daw hynny a chryn foddhad gan greu gwn, nid gwg, ar ein wynebau. Pe bawn yn byw mewn gwlad arall mi fyddai'n naturiol i minnau ddangos Y Ddraig Goch. Anghofiai byth y balchder a'r llawenydd a gefais flynyddoedd yn l wrth weld Y Ddraig Goch yn cyhwfan yn dalog ar un cartref ym Malta lle 'roedd yna Gymro yn byw neu'r pleser o weld ffotograff o siap y Ddraig Goch mewn teils ar waelod pwll nofio mewn cartref yng Nghypris. Onid wyf finnau felly yn anghyson?

Gymaint gwell yw gweld baner Sant Sir na gweld baner Jac yr Undeb yn cael ei defnyddio i gefnogi tm Lloegr gan fod honno yn llawn symboliaeth o ormes ac yn creu cymhlethdodau i'n seici fel Cymry.

Mae yn peri dryswch ac yn achosi i ni fod yn aneglur o safbwynt i bwy i ni'n perthyn. Mae gormod o Gymry wedi dioddef yn enbyd drwy aberthu eu bywydau yn enw Jac yr Undeb. Yn wir mae'n anodd stymogi llawer o'r pethau sydd wedi eu gorfodi arnom o dan gochel y faner honno a hynny yn enw'r Wladwriaeth Brydeinig.

Diolch i'r drefn mae symboliaeth y Wladwriaeth megis Jac yr Undeb a'r Teulu Brenhinol yn mynd yn fwy di-ystyr bob dydd. Mae yn arwyddocaol fel enghraifft na chynhaliwyd parton stryd yr wythnos diwethaf i nodi penblwydd y Frenhines.

Mi gredaf bod defnyddio baner Sant Sir, fel mynegiant o genedligrwydd Lloegr, yn y pen draw yn mynd i gynorthwyo yn y broses i lacio gafael Prydeindod. Mi allai fyw yn iawn gyda hynny. Gall mynegiant o genedligrwydd fod yn rhywbeth iachus. Daw'r dadleuon yn gliriach gan ein gorfodi ninnau i gymryd ochr a sylweddoli pwy i ni ac i bwy i ni yn perthyn.

Wrth siarad gyda rhai o etholwyr Blaenau Gwent dydd Sadwrn diwethaf 'roedd hi'n amlwg fod gymaint ohonynt yn gwybod pwy oeddynt ac yn eithriadol o falch i bwy yr oeddent yn perthyn sef i genedl y Cymry.

Rhan o'r broses o geisio sylweddoli hynny a dyfnhau y berthynas yw'r ymgyrch bresennol dros deddfwriaeth cadarnach i'r Gymraeg. Dyma ymgyrch allweddol. Gobeithio bydd pob un o ddarllenwyr y dudalen hon yn barod i'w chefnogi. Ond fe ddylai rheini hyd yn oed sy'n methu darllen y dudalen hefyd gefnogi'r un alwad.

Wedi'r cyfan craidd yr ymgyrch yw gofalu bod cyfleoedd i lawer mwy o bobl fedru dysgu, deall, darllen a siarad yr iaith. Yn hynny o beth mae yn haeddu ein cefnogaeth ni i gyd.